cdu_icon

CDU Ar-lein

Mae CDU ar-lein yn system TGCh Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y cwmwl. Un system hollol ddwyieithog ar gyfer eich holl anghenion o ran prosesau a gweinyddiaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol.

 

 

Gall CDU ar-lein gael ei addasu’n rhwydd i anghenion awdurdodau unigol i gyflymu prosesau cyfeirio, lleihau llwyth gwaith a chydweddu gyda phrosesau sydd eisoes mewn lle.

Mae CDU ar-lein wedi’i ddatblygu ar-cyd gan Gwasanaeth Dysgu Digidol, Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn i gefnogi ysgolion a cholegau i weithredu gofynion y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

Mae CDU ar-lein yn cefnogi un o egwyddorion allweddol y system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) – cydweithredu rhwng pawb sy’n ymwneud ag adnabod anghenion a chynllunio a darparu cymorth i blant a phobl ifanc ag ADY.

Mae CDU ar-lein yn cefnogi cydweithredu rhwng dysgu, teuluoedd, ysgolion a gweithwyr proffesiynol, a dull sy’n llwyr sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth lunio Cynllun Datblygu Unigol (CDU) a’r cynllunio a chofnodi o Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol, er mwyn sicrhau’r deilliannau gorau i ddysgwyr ag ADY.

Tystebau

“System llawer, llawer gwell na system bapur a phopeth mewn lle canolog.”

“Lleihau swmp gwaith papur ac athrawon a chymhorthyddion yn gallu cael mynediad sydd yn well fyth”

“System arlein wedi bod yn fendith! Diolch amdani.”

“Mae o wedi lleihau’r baich gan ei fod yn arbed y fersiynau i gyd, ac mae’r holl wybodaeth mewn un lle.”

“Mae’r CDU yn ffordd wych i mi fod yn rhan o addysg fy mhlentyn, ac mai’n wych ein bod yn medru gweld hwn gyda’n gilydd adref ar yr ipad a thrafod sut mae pethau’n mynd. Diolch!!”