Tystebau

Datblygiad sy’n cael ei yrru gan ddefnyddwyr

  • Adborth ddefnyddwyr yn rhan annatod o ddatblygu’r CDU ar-lein
  • Ymgynghori parhaus gydag ystod eang of rhanddeiliaid
  • Wedi bod yn destun peilota trylwyr gyda defnyddwyr wrth wraidd y broses datblygu
  • Eisoes yn weithredol mewn rhai awdurdodau lleol yng Nghymru

Fel ysgol gynradd oedd yn rhan o’r cynllun peilot, rydym wedi bod yn rhan o’r prosiect blaengar yma o’r cychwyn, a braf yw gweld datblygiad i system fyw, hylaw, diogel, cyfrinachol di-bapur a chyfredol. Ar ôl derbyn gwahoddiad a chyfrif unigol, mae’r holl rhanddeiliad gan gynnwys rhieni yn gallu cael mynediad i Gynllun Datblygu Unigol. Mae hyn yn sicrhau fod gan pawb fynediad i ddyheadau, amcanion a thargedau, sy’n canolbwyntio ar y Dull Plentyn Canolog ac yn sicrhau fod gwybodaeth allweddol ac angenrheidiol yn dilyn y plentyn ym mha bynnag sefydliad addysgol. Yn wyneb cyfnod y pandemig [COVID-19], mae’r cynllun ar-lein wedi bod yn amhrisiadwy – yn cysylltu rhieni, asiantaethau, arbenigwyr, athrawon, paneli a fforymau, ac yn enwedig ar gyfer pontio boed yn bontio o ddosbarth i ddosbarth neu yn bontio o’r cynradd i’r uwchradd. Mae’n arf hanfodol i gynorthwyo ymarferwyr i sicrhau fod pob plentyn ADY yn cael y gwasanaeth, arbenigedd, arweiniad a chyfle gorau posib.

Pennaeth Ysgol Esceifiog (Cynradd)

Mae’r CDU ar-lein yn offeryn ymarferol sy’n hwyluso’r gwaith o goladu gwybodaeth allweddol am ddisgyblion. Mae’n cynnig dull strwythuredig o adeiladu proffil cyflawn o ddysgwr ac mae’n fodd hwylus o rannu gwybodaeth rhwng ysgolion, rhieni, asiantaethau a’r Awdurdod. Mae defnyddio’r CDU fel sail i drafodaeth wedi esmwytho’r broses pontio, yn enwedig yn y cyfnod anodd yma pandemig [COVID-19], ac wedi rhoi ffocws clir i drafodaeth adeiladol.

Dirprwy a Chydlynydd Ysgol Glan y Môr (Uwchradd)

“System llawer, llawer gwell na system bapur a phopeth mewn lle canolog.”

“Lleihau swmp gwaith papur ac athrawon a chymhorthyddion yn gallu cael mynediad sydd yn well fyth”

“System arlein wedi bod yn fendith! Diolch amdani.”

“Mae o wedi lleihau’r baich gan ei fod yn arbed y fersiynau i gyd, ac mae’r holl wybodaeth mewn un lle.”

“Mae’r CDU yn ffordd wych i mi fod yn rhan o addysg fy mhlentyn, ac mai’n wych ein bod yn medru gweld hwn gyda’n gilydd adref ar yr ipad a thrafod sut mae pethau’n mynd. Diolch!!”